YMCHWILIAD PWYLLGOR CYLLID CYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU I ASESIADAU ARIANNOL  DEDDFWRIAETH NEWYDD.

 

1.                  Cymdeithas Prif Weithredwyr Awdurdodau Lleol (Cymru) (SOLACE) ydi’r gymdeithas sy’n cynrychioli Prif Weithredwyr y 22 Awdurdod yng Nghymru.

 

2.                  Rydym wedi derbyn gwahoddiad gan Bwyllgor Cyllid Llywodraeth Cymru i gyflwyno tystiolaeth ar lafar iddynt mewn perthynas â’r ymchwiliad i agweddau ariannol o’r  Asesiad Amcangyfrion Ariannol.

 

3.                  Mae’r papur hwn yn amlinellu natur y dystiolaeth lafar.

 

4.                  ‘Rydym yn nodi fod Cymdeithas Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i’r Pwyllgor ar y mater hwn, a byddem yn hoffi datgan fod sylwadau SOLACE yn cefnogi’n llwyr y dadansoddiad a roddir yn y papur hwnnw.

 

5.                  Ni fyddai fawr o bwrpas i baratoi papur dim ond er mwyn ail adrodd y pwyntiau wnaed yn y papur hwnnw ond hoffem gymell y canlyniadau i sylw’r Pwyllgor.

 

6.                  Yn benodol, fodd bynnag, hoffem bwysleisio'r pwyntiau penodol a wneir yn y casgliadau (paragraff 44) yn ymwneud efo’r angen i sicrhau fod effeithiau cyllidol wastad yn cael eu hadolygu a’u diweddaru ac y dylai fod yna ymrwymiad i ariannu’n llawn unrhyw oblygiadau newydd.

 

7.                  Mae papur Cymdeithas Llywodraeth Cymru yn amlygu tystiolaeth i ddangos nad yw hyn wedi bod yn wir bob tro.

 

8.                  Mewn rhai achosion wrth gwrs mae deddfwriaeth gynradd yn gosod allan  egwyddorion a chanlyniadau y bwriedir i’r Ddeddf eu hwyluso. Mae’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r  Dyfodol (Cymru) 2014 yn esiampl berffaith, fel yn wir y  mae’r Ddeddf Gwasanaeth Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014, gyda’r ddau yn disgyn i’r categori yma.  Mae’r olaf yn cynnwys ychydig mwy o fanylder ynglŷn â sut y bwriedir i’r Ddeddf gael ei gweithredu na’r cyntaf.

 

9.                  Yn y cyd-destyun yma, mae’n rhaid derbyn ei fod yn hynod anodd i adnabod o’r cychwyn y gwir gost o weithredu amcanion y ddeddfwriaeth, ac mae gan rywun gydymdeimlad gydag unrhyw un sy’n gorfod ymgymryd â’r fath dasg.

 

10.              Mae’r pwynt a wneir yng nghyflwyniad Cymdeithas Llywodraeth Cymru (paragraff 25) fod costau yn codi mewn gwirionedd pan ddown i ddeddfwriaeth eilradd neu gyngor statudol yn golygu’n aml ein bod yn gweld costau’n ymlithro mewn lle na adnabuwyd hwynt yn flaenorol.

 

11.              A chymryd i ystyriaeth fod dadansoddiad ariannol manwl ar y cychwyn yn hynod anodd, teimlir fod yna duedd i gael asesiadau ariannol yn aml i amryfuso ar yr ochr optimistaidd.   Mewn rhai achosion mae hyn yn ddealladwy i unrhyw sefydliad sydd am bwysleisio budd unrhyw weithrediad dros rhwystrau posib.

 

12.              Mae paragraffau 19 a 22-24 o bapur Cymdeithas Llywodraeth Cymru yn amlygu’r mater yma mewn perthynas â’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles yn benodol.

 

13.              Er hynny, ni ddylai hyn atal y Llywodraeth rhag adnabod unrhyw gost ychwanegol wedyn a pharatoi darpariaeth briodol.

 

14.              Er mwyn ychwanegu at bapur Cymdeithas Llywodraeth Cymru rydym wedi comisiynu darn o waith o fewn un awdurdod sydd wedi edrych ar ychwanegiadau mae wedi gorfod ei gyflawni yn y gyllideb yn ystod yr 8 blynedd diwethaf er mwyn cydnabod costau ychwanegol sydd wedi codi o ganlyniad i ddeddfwriaeth ac nad oeddynt wedi’u cydnabod drwy gyllid penodol.   Mae’r canlyniadau yn ymddangos yn Atodiad 1.  

 

15.              Gellir gweld yn ystod y cyfnod dan sylw, fod yr Awdurdod wedi derbyn cyfanswm o £15.1m i dalu am bwysau cyllidol ychwanegol sy’n codi oherwydd pwysau a grewyd gan Lywodraeth San Steffan/Llywodraeth Cymru, ond mae’r pwysau yma yn troi’n wir bwysau cyllidol o £24.2m

 

16.              Rhaid wynebu hefyd y ffaith nad yw’n debygol fod unrhyw gostau fydd yn codi  o ddarnau diweddar o ddeddfwriaeth wedi cyrraedd eu huchafbwynt eto.

 

17.              Dim ond y ddarpariaeth ychwanegol sydd rhaid ei wneud er mwyn cyfarfod y costau ychwanegol uniongyrchol o ddarnau o ddeddfwriaeth ychwanegol a nodir yma wrth gwrs.   Nid yw’n cynnwys y costau anuniongyrchol.

 

 

 

 

18.              Yn sicr, cyn belled a bo’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles yng Ngogledd Cymru yn y cwestiwn, oherwydd maint yr ardal (hynny yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy’n pontio 6 ardal awdurdod lleol dra gwahanol), mae’r awdurdod dan sylw yn adrodd fod y gost cyfle sy’n mynd i mewn i gydlynu a chydweithio er mwyn ceisio cyflawni gofynion y ddeddf a’r dulliau gweithredu a nodir ynddi yn sylweddol er nad oes son amdano mewn unrhyw asesiad.

 

19.              Wrth ddod i ganlyniad felly, tra’n derbyn fod sefydlu asesiadau ariannol cywir ar y cychwyn am wastad fod yn anodd, mae’n rhaid iddo fod yn broses gyfredol a byw yn hytrach nag asesiad un tro, ac fe ddylai fod yna ymrwymiad er mwyn ceisio cadarnhau dadansoddiadau fel mae’r gweithrediad yn datblygu, gydag ymrwymiad pellach i ariannu’r gronfa’n llawn unwaith mae wedi’i ddiffinio.

 

 

Dilwyn Williams

Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd

Llefarydd SOLACE ar faterion Cyllidol


 

Atodiad 1

 

Deddfwriaeth newydd a phenderfyniadau llywodraeth ganolog: effaith ariannol ar Gyngor Gwynedd

 

1.     Cyflwyniad

 

1.1  Dangosodd papur diweddar Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i Bwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol, “Financial estimates accompanying legislation”, effaith newidiadau deddfwriaethol ar y costau wynebwyd gan lywodraeth leol yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf, ac yn benodol y ffaith nad yw llawer o’r costau hyn yn cael eu hariannu drwy’r setliad llywodraeth leol.

 

1.2  Mae’r papur hwn yn darlunio’r mater hwn ymhellach yng nghyswllt yr effaith ariannol ar Gyngor Gwynedd dros yr wyth mlynedd ariannol ddiwethaf.

 

2.     Amcangyfrif yr effaith ariannol

 

2.1 Rydym wedi edrych ar y newidiadau o flwyddyn i flwyddyn yng nghyllideb refeniw Gwynedd dros y blynyddoedd ariannol 2010/11 i 2017/18, a pha rai o’r newidiadau hynny gafodd eu nodi’n benodol eu bod yn deillio o ddeddfwriaeth newydd (ar lefel Cymru neu’r DU), neu swyddogaethau / cyfrifoldebau newydd a roddwyd ar lywodraeth leol.

 

2.2 Mewn rhai achosion, bu’n anodd ynysu effeithiau ariannol deddfwriaeth newydd oddi wrth newidiadau eraill oedd yn effeithio’r maes gwasanaeth tua’r un pryd (megis penderfyniadau polisi lleol, neu newidiadau yn y galw am wasanaethau). Roedd hefyd yn anodd adnabod unrhyw newidiadau a gyllidwyd gan arian dros dro unwaith-ac-am-byth (yn hytrach na’r gyllideb refeniw parhaol) ac unrhyw achosion lle mae gwasanaethau wedi amsugno gofynion ychwanegol o gyllidebau presennol yn hytrach na chyflwyno bid am adnoddau ychwanegol.

 

2.3 Fel y cyfryw, mae’r symiau rydym wedi gallu eu hadnabod yn ôl pob tebyg yn amcangyfrifon ceidwadol o’r costau gwirioneddol a gafwyd dros y cyfnod o wyth mlynedd.

 

3.   Cyfanswm effaith ariannol ar Wynedd

 

3.1  Rhwng 2010/11 a 2017/18 roedd cyfanswm o tua £24.2 miliwn wedi gorfod cael ei ychwanegu at y gyllideb refeniw flynyddol yng Ngwynedd yn sgil gofynion deddfwriaethol newydd a phenderfyniadau llywodraeth ganolog. Mae hyn yn cyfateb i tua 10.4% o gyfanswm cyllideb net flynyddol y Cyngor.

 

3.2  Cafodd tua £15.1 miliwn o’r swm hwn ei gyllido yn y setliad llywodraeth leol, gan adael diffyg o tua £9.1 miliwn.

 

3.3  Mae hefyd yn bwysig nodi fod llywodraeth leol, yn ystod y cyfnod hwn o wyth mlynedd, wedi profi pwysau ariannol difrifol gyda Chyngor Gwynedd wedi gweithredu tua £58 miliwn o arbedion, yn cynnwys rhai toriadau i wasanaethau, yn ystod y cyfnod. Gellir gweld felly bod y diffyg o £9.1m heb ei gyllido, gyfeiriwyd ato uchod, wedi cyfrannu at y sefyllfa ac wedi arwain at doriadau mwy difrifol i wasanaethau eraill (a / neu dreth gyngor uwch yn daladwy gan drigolion lleol) nag a fyddai wedi digwydd fel arall.

 

 

3.4  Mae’r tabl a’r siart isod yn dangos yr effaith ariannol amcangyfrifiedig (a p’run ai gafodd ei gyllido) fesul blwyddyn ariannol:

 

Effaith ariannol deddfwriaeth a gofynion llywodraeth ganolog ar Gyngor Gwynedd

 

Cyfanswm effaith ariannol

£’000

Wedi’i gyllido

£’000

Heb ei gyllido

£’000

2010/11

1,125

1,079

46

2011/12

1,521

1,001

520

2012/13

453

27

426

2013/14

11,269

11,108

161

2014/15

1,821

1,149

672

2015/16

1,066

184

882

2016/17

3,920

0

3,920

2017/18

2,994

547

2,447

Total

24,169

15,095

9,074

 

3.5 Mae’r symiau mawr ar gyfer blwyddyn ariannol 2013/14 i’w priodoli’n bennaf i drosglwyddiad  Cefnogaeth Treth Gyngor i lywodraeth leol, oedd (fwy neu lai) wedi’i gyllido’n llawn yn y flwyddyn gyntaf tra cafodd elfen o ddiffyg cyllidol ei symud i lywodraeth leol yn y flwyddyn ddilynol.

 

4.   Dadansoddiad yn ôl math o bwysau cost

 

4.1 Mae’r tabl a’r siart isod yn dangos natur y pwysau cost ychwanegol dros y cyfnod o wyth mlynedd (a p’run ai gafodd ei gyllido):


 

Pwysau cost Cyngor Gwynedd 2010/11 i 2017/18, yn ôl ffynhonnell y pwysau cost

 

Cyfanswm pwysau cost

£’000

Wedi’i gyllido

 

£’000

Heb ei gyllido

 

£’000

Deddfwriaeth Cynulliad Cenedlaethol

3,864

2,599

1,265

Newidiadau treth / pensiynau

4,946

0

4,946

Deddfwriaeth isafswm cyflog

2,000

0

2,000

Cefnogaeth Treth Gyngor – trosglwyddo’n lleol

9,479

9,236

243

Mentrau newydd

 

2,341

2,254

87

Trosglwyddo cyfrifoldebau

1,539

1,006

533

Cyfanswm

24,169

15,095

9,074

 

 

4.2     Y prif elfennau heb eu cyllido dros y cyfnod o wyth mlynedd oedd:

 

·         Deddfwriaeth Cyflog Byw: £2.0m

 

·         Newidiadau Yswiriant Gwladol / Pensiynau (yn cynnwys Ardoll Prentisiaethau): £4.9m

 

·         Colled incwm oherwydd trothwyon newydd ffioedd Gofal Cartref: £0.8m

·         Mentrau newydd (yn cynnwys rhai gyllidwyd drwy grant yn wreiddiol, ond fod y cyllid wedyn wedi gostwng yn raddol neu ddod i ben): £0.5m (e.e. Strategaeth Gwastraff Cynaliadwy, Brecwast Am Ddim)

 

·         Gofynion statudol eraill: £0.5m (e.e. Deddf Gofal Cymdeithasol a Lles; Strategaeth Gofal Cymdeithasol a Lles; Lwfansau Aelodau)

·         Cynllun Gostyngiadau Treth Gyngor/newidiadau Budd-dal Tai: £0.4m